Wythnos yma, rydym am ddangos i chi app braf newydd oedd yn App yr Wythnos yn siop Apple -The Human Body gan Tinybop. Mae gan yr app yma nodweddion gwych fydd yn caniatáu i’ch plant adolygu a chyfnerthu pynciau Bioleg mewn ffordd hwylus a deniadol, yn ogystal â rhoi’r pŵer i chi fel rhiant i ryngweithio gyda’ch plentyn mewn ffordd chwareus.
Beth mae’r app yn ei wneud?
Yn eu modd symlaf, mae’r app yn cynnig animeiddio defnyddiol o organau amrywiol yn y corff dynol. Mae’r animeiddio yn gywir, ac yn rhoi lefel dda o ryngweithio, fel bod y dysgwyr yn medru trin y gwrthrychau yn y system er mwyn gweld beth fydd yn digwydd. Er enghraifft, gallent symud yr esgyrn i ffwrdd o’r corff i weld effaith bod heb sgerbwd, neu medrant roi bwydydd amrywiol i’r bod dynol bach i fwyta er mwyn gweld yr effaith ar y dannedd. Ac, o ie, gallwch hyd yn oed gweld be fydd yn digwydd ar ddiwedd y system dreulio – sy’n cynnwys effeithiau sain ddiddorol.
Tra bod animeiddio cywir a rhyngweithiol yn fonws mawr, mae mwy na hyn. Mae’r app hefyd yn eich caniatáu fel rhiant i ddilyn eich plant ac i ychwanegu mwy nag un plentyn. Gall ddysgwyr recordio cwestiynau ar lafar tra eu bod yn defnyddio’r app a gadael cwestiynau a sylwadau i’w rhieni/ hyfforddwyr i’w hadolygu. Gall y rhiant/ hyfforddwr hefyd ymateb drwy gofnodi sylwad.
Gweithgareddau dysgu
Gydag app fel hyn mae yna nifer o bethau braf y medrwch chi eu gwneud, ond efallai un o’r rhai mwyaf defnyddiol yw gosod y dasg i’ch plant o recordio adroddiad o’r hyn sy’n digwydd yn y system un o’r organau ar hyd y camau amrywiol. Er enghraifft, gallant edrych ar y system resbiradaeth gan ymchwilio ymhellach wrth iddynt ffocysu ar wahanol ardal yn y system.(gwelir delweddau isod). Fel rhiant / hyfforddwr medrwch adolygu eu heglurhad a chynnig adborth. Mae hyn yn ffordd braf i adolygu, nid yn unig oherwydd mae’r app yn cynnig ffyrdd gweledol defnyddiol iawn, ond oherwydd mae’n ffordd unigryw ac yn gyfle i rieni ddod yn ymhlyg yn addysg eu plant.
Rhowch wybod i ni yn y blwch sylwadau sut wnaethoch chi ddefnyddio’r app gyda’ch plant/ myfyrwyr.
Leave a Reply
You must be logged in to post a comment.